Mae Mr, sef prosiect diweddaraf Mark Roberts o’r Cyrff a Catatonia, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar ei safle Bandcamp.
‘Airbnb’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ers 3 Hydref.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i sengl arall, ‘Rhag dy gywilydd di’ a ryddhawyd gan Mr nôl ym mis Gorffennaf eleni, a hefyd ‘Blewyn y ci’ a ryddhawyd ym mis Mai.
Ag yntau wedi gwneud arferiad o ryddhau albyms rheolaidd yn yr hydref, gyda phedwar albwm mewn pedair blynedd yn cael eu rhyddhau rhwng 2018 a 2021 (er mai ym mis Gorffennaf 2023 ryddhawyd ei record hir ddiwethaf, ‘Misses’) gallwn ond dyfalu bod albwm newydd ar y ffordd ganddo yn y dyfodol agos.
Mae Mr wedi bod yn gigio’n ddiweddar, gyda chyfle i’w weld yng ngŵyl Psylence yn Pontio, Bangor penwythnos diwethaf, ac yn Nhŷ Tawe, Abertawe y penwythnos blaenorol.
Llun: Celf Calon