Enwebiad Gwobrau AIM 2024 i Popeth

Mae’r cyfansoddwr a chynhyrchydd, Popeth, wedi’i enwebu ar gyfer y wobr ‘PPL Award For The Most Played New Independent Artist’ yng Ngwobrau AIM 2024. 

Popeth ydy prosiect pop arbrofol Ynyr Gruffudd Roberts, ac fe ddaeth i’r amlwg yn 2022 wrth ryddhau sengl gyntaf y prosiect sef y trac ‘Golau’ fel cydweithrediad gyda Martha Grug. 

Mae wedi bod yn gynhyrchiol iawn ers hynny, ac yn wir wedi rhyddhau tair sengl eleni hyd yma, gan weithio gydag artist gwahanol ar bob trac gan gynnwys Tesni Jones (‘Rhywun yn Rhywle’), Leusa Rhys (‘Dal y Gannwyll’) a Tara Bandito a Gai Toms, ar ei sengl ddiweddaraf, ‘Zodiacs’

Yn rhannu’r rhestr fer gyda rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw y DU heddiw, gan gynnwys Barry Can’t Swim (Ninja Tune), Coach Party (Chess Club Records) a hefyd project Kelly Jones (Stereophonics), Far From Saints (Ignition Records), bydd seremoni Gwobrau AIM 2024 yn cael ei chynnal yn y Roundhouse yn Llundain ar ddydd Iau 17 Hydref. 

“Prosiect gyda phwyslais ar gydweithio i gynhyrchu cerddoriaeth pop Cymraeg i’r byd ydi Popeth!” meddai Ynyr. 

“Mae’n brosiect blaengar a chynhwysol sy’n cyfansoddi caneuon clwb/dawns ddisglair a hapus o fewn sin cerddorol cyffrous a llewyrchus yma yng Nghymru.

“Mae derbyn enwebiad ar gyfer Gwobr AIM yn golygu cymaint i mi, ar y cam cynnar hwn o daith Popeth, a gobeithio bydd y sylw yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio a chyfansoddi cerddoriaeth newydd gyffrous.”

Ethos o gydweithio

Mae Popeth yn cyhoeddi cerddoriaeth trwy label Recordiau Côsh, ac mae sylfaenydd y label,  Ywain Gwynedd yn amlwg yn falch o lwyddiant y prosiect. 

“Mae Popeth yn artist sy’n cynhyrchu alawon pop bachog” meddai Ywain. 

“Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ganu a serennu ar y traciau, gan ddefnyddio’r gân fel sylfaen i ddechrau gyrfa eu hunain fel artistiaid unigol. 

“Mae’r ethos hwn o gydweithio, a rhoi cyfle i artistiaid eraill i leisio’r caneuon, wedi gwneud Popeth yn artist difyr i’w dilyn – rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesa!”

‘Zodiacs’ ydy sengl ddiweddaraf Popeth: