Mae gŵyl gerddoriaeth Roc y Ddôl ym Methesda wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad yn 2025.
Bydd yn ŵyl yn cael ei chynnal ar 21 Mehefin yng Nghlwb Rygbi Bethesda blwyddyn nesaf.
Mae’r arlwy’n drawiadol gyda Bwncath, Elin Fflur, Yws Gwynedd, Dafydd Iwan a Tara Bandito i gyd yn perfformio ynghyd ag eraill.
Dywed y trefnwyr y bydd cyhoeddiad ynglŷn â manylion tocynnau’n fuan.