Mae HMS Morris ar fin dechrau ar eu taith hydref eleni, gyda’r gig cyntaf yng Nghaerdydd nos Iau yma, 31 Hydref.
Mae’r band wedi enwi’r gyfres o gigs yn daith ‘Year of the Zombie’ a byddan nhw’n ymweld â chwech lleoliad dros y dair wythnos nesaf.
Yn anffodus mae un o’r gigs gwreiddiol a gyhoeddwyd ym Mryste bellach wedi ohirio ond bydd dal cyfle i weld y band yn Stafford, Wrecsam, Birkinhead, Glasgow a Llundain.
Dyddiadau llawn ‘Taith Year of The Zombie’:
31 Hydref – Acapela, Caerdydd
1 Tachwedd – Stafford Dog House, Stafford
3 Tachwedd – Tŷ Pawb, Wrecsam
3 Tachwedd – Futureyard, Birkinhead
10 Tachwedd – Old Hairdressers, Glasgow
16 Tachwedd – Goldsmiths SU, Llundain