Gyda lansiad swyddogol yn Llanfrothen heno (25 Hydref), mae’r artist hip-hop o Ddyffryn Nantlle, skylrk., wedi rhyddhau ei albwm newydd, ac yn wir albwm cyntaf y prosiect cyffrous.
Ti’n gweld yn glir¿ ydy enw’r record hir sy’n ffrwyth pum mlynedd o ddatblygiad gan y cerddor, ond dywed bod yr albwm yn mynd yn groes i’w sŵn arferol ac yn creu bydysawd sonig unigryw gan adeiladu byd dirdynnol i’r gerddoriaeth a’r delweddau fodoli ynddo.
Daeth skylrk. i amlygrwydd wrth gipio teitl Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2021, ac mae wedi parhau’n weithgar ers hynny. Mae hyn wedi cynnwys gigs a chynnyrch rheolaidd ynghyd â chael ei ddewis fe un o artistiaid prosiect Forté yn 2022, a hefyd y cyfle i berfformio yn Gig y Pafiliwn 2023 gyda cherddorfa’r Welsh Pops.
Ochr yn ochr â hyn, mae skylrk. wedi bod yn brysur yn gweithio ar ei brosiect hir cyntaf sef yr albwm ‘ti’n gweld yn glir¿’.
Chwilio am y teimlad
Caiff yr albwm ei ryddhau drwy label INOIS, sef label sefydlwyd gan Hedydd Ioan (skylrk.) gyda’i ffrind a’r cerddor, Osian Cai. Mae’r albwm wedi bod yn llafur cariad go iawn, ond fel mae Hedydd yn esbonio, fe ddaeth at ei gilydd mewn ffordd anghonfensiynol iawn.
“Fe gafodd yr holl ganeuon ei sgwennu, ac wir, yn adrodd hanes y pum mlynedd dwytha yn fy mywyd. Er recordio gymaint o demos, doedd y teimlad iawn byth yna” meddai Hedydd.
“Wedi perfformio’r set o ganeuon efo band am dwy flynedd dyma fi ac Elgan, gitarydd y band, yn eistedd lawr un noson i ymarfer. Dyma fi’n recordio’r sesiwn, ac wrth wrando nôl dyma fi’n sylwi bod ni wedi llwyddo i ddal yr union deimlad o ni’n chwilio am.
“Mewn un noson odda ni wedi llwyddo i grynhoi y pum mlynedd. Y mwya’ o amser o ni’n dreulio efo’r prosiect o ni’n sylwi, dyma fo, dyma di’r albwm.”
Celf i ategu’r gerddoriaeth
Yn ogystal â bod yn gerddor, mae Hedydd Ioan hefyd yn artist sy’n gweithio ar draws ffilm, celf a pherfformio. Gan ystyried hyn oll, mae’n gwneud synnwyr bod ‘ti’n gweld yn glir¿’ yn amlygu ei hyn i fod yn fwy nag albwm sy’n cael ei ryddhau ar lwyfannau digidol yn unig, felly mae fersiwn feinyl a CD nifer cyfyngedig yn cael eu rhyddhau hefyd.
“Mae’r ffaith fod y gerddoriaeth yn rhywbeth mae pobl yn gallu ei ddal a’i gadw yn anhygoel o bwysig” meddai Hedydd.
I gyd-fynd â’r gwaith celf unigryw sydd wedi’i baratoi gyda phob fersiwn o’r albwm, bydd yna hefyd gyfres o fideos yn cael ei cyhoeddi i hyrwyddo’r albwm. Ag yntau’n gyfarwyddwr ffilm hefyd, dywed Hedydd ei fod yn bwriadu adeiladu byd gweledol i gyd-fynd â’r gerddoriaeth.
“Dim ond rhan o’r byd ydy’r gerddoriaeth, mae’r rhannau eraill yn y celf, y ffilmiau a’r perfformiad byw” meddai.
Bydd lansiad i’r albwm ar y dyddiad rhyddhau, a hynny yn Oriel Brondanw yn Llanfrothen.
Yn dilyn y lansiad, bydd taith hyrwyddo’r record yn ymweld â lleoliadau yn Abertawe, Llandudno, Aberystwyth a Bangor yn ystod mis Tachwedd. Gan barhau i geisio ail-ddiffinio beth ydy’r daith, mae tri o’r pum lleoliad yn Orielau Celf yn hytrach na lleoliadau gigs traddodiadol.
“Mae’n deimlad rhyfedd i feddwl bydd yr albwm yn dod allan i’r byd o’r diwedd” meddai Hedydd, gan ymateb i’r holl waith paratoi trylwyr.
“Mae wir yn teimlo fel mod i’r rhannu darn o’m enaid, sef y gobaith efo unrhyw ddarn o gelf ti’n falch ohono dwi’n meddwl. Yn hytrach na chreu albwm, dwi’n meddwl y peth dwi mwya’ balch ohono ydy gallu dal yr union emosiwn dwi wedi ei deimlo yn ystod y blynyddoedd dwytha’ ar y record.”
Dyddiadau Taith ‘Marmor’
25 Hydref – Oriel Brondanw, Llanfrothen
8 Tachwedd – Oriel Mission, Abertawe
15 Tachwedd – Haus, Llandudno
22 Tachwedd – Y Cŵps, Aberystwyth
29 Tachwedd – Belle Vue, Bangor
Dyma’r trac ’marmor.’: