Cynnyrch cyntaf Cyn Cwsg

A hwythau wedi creu dipyn o argraff ar lwyfannau byw yn ystod 2023, mae’r band poblogaidd Cyn Cwsg yn dechrau’r 2024 trwy ryddhau sengl ddwbl newydd ar label Untro. 

Cyn Cwsg ydy Tomos Lynch, Obed Powell-Davies a Gwion Ifor, ac ar ôl bod yn eistedd ar bentwr o ganeuon ers tro, maent wedi penderfynu rhyddhau dwy ohonynt, sef ‘Asgwrn Newydd’ a ‘Lôn Gul’, fel senglau ar y cyd. 

Caiff y caneuon eu disgrifio gan y band fel rhai melodig sy’n dal hwyl penwythnos o recordio gyda’r cynhyrchydd, Sywel Nyw, yn Ne Llundain ddiwedd haf 2023.

“Oedda’ ni ddigwydd bod yna’r un pryd â rhyw heatwave mawr a dwi’n meddwl fod yr hwyl yn hynny o beth – o fynd am lot o breaks yn yr haul, o roi takes lawr yn gyflym ac o daflu gwahanol ddylanwadau rownd y ’stafell – yn dod drosodd yn y caneuon” eglura’r band.

Mae rhai o’r dylanwadau rheini yn dyddio yn ôl i’r 70au, â gonestrwydd geiriau ‘Asgwrn Newydd’ yn tynnu ar ganeuon serch Gilbert O’Sullivan, tra bod harmonïau cynnes ‘Lôn Gul’ yn ymgais ar fynd “all out Hergest” fel yr eglura’r aelodau. 

Mae Cyn Cwsg hefyd wedi bod yn cyd-weithio â’r cyfarwyddwr ffilm, Aled Victor, ar fideo a ddisgrifir fel “teyrnged tafod yn y boch i ddegau o nosweithiau hwyr yn gwylio clipiau o rooftop concert y Beatles tra yn y coleg yn Aberystwyth,” wrth i’r band berfformio ar falconi fflat yng nghanol Caerdydd. 

Bydd y fideo, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp x PYST, yn cael ei ddangos cyn y ffilm Lisa Frankenstein yng Nghanolfan Gelfyddydol Chapter yng Nghaerdydd bob nos rhwng yr 8 a 14 Mawrth, cyn y premiere digidol ar wefan Klust yr wythnos ganlynol. 

Dyma ‘Asgwrn Newydd’: