Mae’r gantores ifanc o Benllyn, Lleucu Gwawr, wedi rhyddhau ei chynnyrch cyntaf ar label Recordiau Sain.
Sengl ddwbl ydy’r cynnyrch hwnnw sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 7 Mehefin, sef y caneuon ‘Hen Blant Bach’ a ‘Byw i’r Funud’.
Daw Lleucu Gwawr o Lithfaen ger Pwllheli, ac wedi cyfnod o weithio ar ganeuon a chanu’n fyw yn lleol a thu hwnt, mae’r cyfle wedi dod i rannu ei cherddoriaeth ymhellach a’u rhyddhau i gynulleidfa ehangach.
Mae’r sengl ddwbl yn cynnwys cân wreiddiol newydd, ‘Hen Blant Bach’, y gerddoriaeth gan Lleucu a’r geiriau gan Llifon Jones.
Amserol
“Hen Blant Bach ydi’r gân gynta’ i fi ei chyfansoddi fy hun, ac o’n i’n licio bod y geiriau gan Llifon mor amserol” meddai Lleucu.
Mae’n gân am oferedd rhyfel gan ganolbwyntio ar sefyllfa erchyll y plant sy’n dioddef ar hyn o bryd mewn sawl gwlad.
Fersiwn cyfyr o gân arbennig Dyfrig Topper yw’r ail gân ar y sengl, ‘Byw i’r Funud’.
“Mae ‘Byw i’r Funud’ yn gân mor eiconig a dwi wedi bod yn ei chanu hi mewn gigs yn ddiweddar ac yn mwynhau ei chanu hi bob tro” meddai Lleucu.
Gellir disgrifio canu Lleucu fel canu didwyll o’r enaid a gyda hyder tawel mae ganddi’r ddawn i swyno cynulleidfa gyda’i pherfformiadau i’w chyfeiliant ei hun ar y piano.
Recordiwyd y caneuon yn Stiwdio Sain gydag Ifan Emlyn Jones yn cynhyrchu ac Osian Huw Williams ar yr offerynnau ychwanegol.
Bydd sawl cyfle i glywed Lleucu yn canu’n fyw dros yr haf.
Gigs Lleucu Gwawr
08.06 – Crasu Coed, Aberdaron
14.06 – Bryncir, The Mart
28.06 – Gŵyl Porthi’r Penwaig, Nefyn
05.07 – Gŵyl y Felinheli
Dyma ‘Hen Blant Bach’: