Fideo sengl newydd Griff Lynch ar Lwp

Mae fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Griff Lynch wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lwp, S4C.

Rhyddhawyd y trac ‘Kombucha’ ar ddydd Gwener 31 Mai a dyma gynnyrch cyntaf y cerddor ers tair blynedd. Nawr, mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl.

Griff Lynch ei hun sydd wedi cyfarwyddo a golygu’r fideo, gydag Aled Wyn Jones yn cynhyrchu.

Bydd albwm llawn cyntaf Griff Lynch yn dilyn yn hwyrach yn y flwyddyn hefyd.