Yr arloeswyr hip-hop o Gymru, Eric Martin a DJ Jaffa, enillodd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, yn seremoni y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Cyflwynwyd y wobr i’r ddau am eu cyfraniadau drwy gydol eu gyrfa i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru.
Mae Eric Martin (a gaiff hefyd ei adnabod fel MC Eric neu Me One) yn lleisydd, aml-offerynnwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth o dras Jamaicaidd a gafodd ei eni yng Nghymru. Fe ddaeth i amlygrwydd drwy ei waith i’r act recordio o Wlad Belg, Technotronic, ar ddiwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au, pan gyd-ysgrifennodd y glasur ‘Pump Up The Jam’ – albwm aml-blatinwm a werthodd dros 14 miliwn o gopïau ledled y byd yn ei blwyddyn gyntaf.
Cynhyrchydd yw DJ Jaffa (a gaiff ei adnabod hefyd fel Jason Farrell) sy’n byw yng Nghaerdydd ac sydd wedi bod yn DJio ers 1985. Ymddangosodd ar y sîn yn fuan wedi hynny gydag Eric Martin a’u cymysgeddau reggae a hip-hop. Mae’r ddau’n cael eu cydnabod yn eang am arloesi’r sîn hip-hop yng Nghymru.
Ymhlith enillwyr blaenorol y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig mae Dafydd Iwan, David Edwards a Pat Morgan o Datblygu, canwr The Alarm, Mike Peters, Meredydd Evans a Phyllis Kinney a Meic Stevens.
“Rwy’n teimlo’n ffodus o fod wedi bod yn rhan o sîn hip-hop ifanc a bywiog yng Nghymru” meddai Eric Martin wrth ymateb i’w gydnabyddiaeth drwy’r Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.
“Mae cael fy ngweld fel pwynt y mae’r tameidiau cerddorol presennol yma’n deillio ohono yn anrhydedd. Rwy’n ostyngedig ac yn ddiolchgar.”
Roedd DJ Jaffa hefyd yn falch i weld y datblygiad mewn cerddoriaeth rap a hip-hop yng Nghymru.
“Mae gweld cymaint o artistiaid o boom bap i drill i pob ffurf o hip-hop yn troi i mewn i rywbeth hardd yn cynhesu fy nghalon” meddai.
“Y llinell waelod yw fy mod i’n caru cerddoriaeth, dw i’n caru DJio, dw i wrth fy modd yn gweld cerddoriaeth ddu yng Nghymru. Dyma ein blwyddyn ni.”
Gwobr arall sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol fel rhan o seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ydy Gwobr Trisgell. Caiff y wobr yma ei chyflwyno i dri artist gyda chefnogaeth yr elusen Help Musicians, ac eii nod yw darparu adnoddau ac arweiniad hollbwysig i artistiaid allu datblygu eu gyrfaoedd cerddorol.
Y tri artist a dderbyniodd wobr Trisgell eleni oedd ADJUA, WRKHOUSE a VOYA.
Cyfansoddwr o Gymru/Ghana yw ADJUA sydd â sain R&B indi/grynj unigryw.
Linford Hydes ac Eddie Al-Shakarchi yw VOYA, y mae eu cerddoriaeth yn ymgorffori electronica tywyll a steilus, pop-synth melodaidd a cherddoriaeth ton-newydd.
Mae brand WRKHOUSE wedi datblygu o lwch y band Lewys ac yn creu pop-alt atmosfferig llawn grŵfs wedi eu gosod nhw’n gadarn ymhlith y genhedlaeth nesaf o artistiaid cyffrous Cymru.
Llun: WRKHOUSE yn perfformio ar y noson