Datgelu prif artistiaid Llwyfan y Maes Eisteddfod 2024

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgelu manylion enwau’r artistiaid fydd yn cloi Llwyfan y Maes ar bob diwrnod yr ŵyl eleni. 

Parc Ynysangharad ym Mhontypridd fydd lleoliad yr Eisteddfod eleni a hynny rhwng dydd Sadwrn 3 Awst a dydd Sadwrn 10 Awst. 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae llwyfan perfformio’r maes ei hun wedi dod yn gyrchfan poblogaidd, a’r slotiau sy’n cloi pob noson yn rai sy’n cael eu trysori gan artistiaid. 

Bu’r Eisteddfod yn cyhoeddi enw prif artist pob noson yn raddol wythnos diwethaf a bydd y penwythnos cyntaf eleni’n siwr o blesio gyda Dafydd Iwan yn cau y nos Sadawrn ac yna Yws Gwynedd yn dod a’r diwrnod i ben ar y dydd Sul. 

Mynediad am Ddim fydd prif atyniad nos Lun gyda Mellt yn cloi y llwyfan ar y nos Fawrth. Bydd rhywbeth bach yn wahanol ar y nos Fercher sef ‘Un Dub 2’ – partneriaeth arbennig rhwng Aleighcia Scott a Morgan Elwy fydd yn dod â synnau Dub a Reggae i faes y Brifwyl. 

Yn dilyn blwyddyn fywiog yn cynnwys cynnyrch newydd a llawer o gigs, Meinir Gwilym fydd yn cloi y llwyfan ar y nos Iau. Bydd y band Gwilym yn siwr o blesio ar y nos Wener cyn i Eden ddirwyn yr ŵyl i ben gyda set olaf yr wythnos ar lwyfan y maes nos Sadwrn. 

Bydd setiau’r bandiau sy’n cloi llwyfan y maes bob nos yn dechrau am 9pm. 

Mae’r tocynnau maes ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ar werth nawr ar wefan yr Eisteddfod

Prif artistiaid llwyfan y maes bob nos:

Sadwrn 03 Awst – Dafydd Iwan

Sul 04 Awst – Yws Gwynedd

Llun 05 Awst – Mynediad Am Ddim 

Mawrth 06 Awst – Mellt 

Mercher 07 Awst – Un Dub 2: Aleighcia Scott a Morgan Elwy 

Iau 08 Awst – Meinir Gwilym

Gwener 09 Awst – Gwilym 

Sadwrn 10 Awst  – Eden