Mae’r telynor arbrofol a ddaw yn wreiddiol o Aberystwyth, Rhodri Davies, wedi rhyddhau bocs set arbennig sy’n cynnwys wyth o’i albyms.
Mae’r bocs set yn cynnwys wyth record hir mae wedi rhyddhau fel artist unigol dros y blynyddoedd ac ar gael ar ffurf CD, sy’n cynnwys mynediad i’r casgliad yn ddigidol i’w ffrydio neu lawr lwytho.
Yn y casgliad ceir ei draciau fel unawdydd sy’n cwmpasu dros 20 mlynedd gan ddechrau gyda Trem (2002) hyd at ei albwm diweddaraf, Telyn Wrachïod (2024).
Mae’r casgliad ar werth ar ei safle Bandcamp.
Dyma restr yr albyms:
- Trem
- Over Shadows
- Wound Response
- An Air Swept Clean of All Distance
- Telyn Rawn
- For Simon H. Fell
- DWA DNI
- Telyn Wrachïod