Mae’r cerddor a chynhyrchydd adnabyddus, Don Leisure, wedi plymio i archif label recordiau Sain gan fentro i’r byd gwerin-seicadelig wrth ryddhau’r trac ‘Cynnau Tân’.
Caiff y cerddor, Don Leisure, ei gydnabod fel un o’r cynhyrchwyr ac arbenigwyr bît mwyaf arbrofol a mentrus yn yr ecosystem gerddorol gyfredol. Mae’n un hanner o’r ddeuawd, Darkhouse Family (gyda Earl Jeffers), ac mae wedi cydweithio gydag artistiaid megis Angel Bat Dawid, Gruff Rhys, DJ Spinna a’i gyd-gerddorion ar label First World, Amanda Whiting a Tyler Dayley (Children of Zeus).
Dros y blynyddoedd casglodd Don wybodaeth drylwyr a helaeth am gerddoriaeth o bob math o genres ac is-ddiwylliannau, yn arbennig felly cerddoriaeth werin seicadelig yn y Gymraeg a ryddhawyd yng nghanol yr 20fed ganrif.
Dechreuodd ei ddiddordeb brwd yng ngherddoriaeth Cymru pan gyflwynodd y cerddor a’r cynhyrchydd cydnabyddedig, Andy Votel, y casgliad aml-gyfrannog, ‘Welsh Rare Beat’ iddo – casgliad a ddetholwyd gan Votel, ar y cyd gyda Gruff Rhys a Don Thomas, o blith ôl-gatalog Sain, ac a ryddhawyd gyntaf yn 2005.
Cyfraniad Carwyn
Erbyn hyn, Sain yw’r label recordio annibynnol hynaf yng Nghymru ac mae’n parhau i ryddhau cerddoriaeth o bob math gan rai o artistiaid cerddorol mwyaf blaenllaw y wlad.
Wedi tyrchu yn nhrysorfa gerddorol archif Sain, mae Don wedi defnyddio ei sgiliau unigryw ac annisgwyl i gyfuno dau glasur o drac gwerin-seicadelig er mwyn creu rhywbeth newydd sbon sy’n dwyn y teitl, ‘Cynnau Tân’.
Mae’r trac yn cynnwys cyfraniadau lleisiol gan y cerddor Carwyn Ellis, sef un o’r lleisiau mwyaf diddorol ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru heddiw yn ôl Don, ac un a gydweithiodd yn ddiweddar gyda Coco Maria fel rhan o’i brosiect Rio 18.
Mae’r trac yn mynd â ni ar gyfeiliorn ac ar daith sonig i fyd arall, gan gyfuno naws hamddenol a lled feddwol y 60au gyda lleisiau sy’n ymdroelli ac yn ymestyn a chyfresi o gordiau hypnotig.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Don eto, yn arbennig gan ei fod o wedi cyfrannu i albwm diweddaraf Rio 18” meddai Carwyn Ellis am y cydweithio rhwng y ddau.
“Mae ei ddiddordeb obsesiynol a’i wybodaeth am hen recordiau Cymraeg yn gwbl anhygoel!”
Gyda phrosiect ehangach ar y gweill ar gyfer 2025, mae’r sengl ‘Cynnau Tân’ yn amlygu perlau o blith rhai o recordiau mwyaf ysbrydoledig ac arwyddocaol label Sain.