Dydd Miwsig Cymru i ddathlu 10 blynedd

Bydd Dydd Miwsig Cymru, sef prosiect y Llywodraeth i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, yn dathlu deng mlynedd ers cael ei sefydlu pan gynhelir y digwyddiad ar ddydd Gwener 7 Chwefror 2025. 

Wrth baratoi at y diwrnod, mae’r trefnwyr wedi galw i sicrhau mai’r digwyddiad fydd y mwyaf eto, annog pawb i helpu tynnu sylw at amrywiaeth anhygoel cerddoriaeth Gymraeg a chreu cyfle unigryw i bawb brofi diwylliant Cymru a dod i’w adnabod yn well.

Bwriad y digwyddiad blynyddol yw ysbrydoli pobl i ddarganfod yr amrywiaeth o fiwisg Cymraeg, o roc a gwerin i bync, dril, a tecno. Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu’r sbectrwm llawn, gan brofi bod rhywbeth yn y Gymraeg at ddant pawb ac yn cynnig llwyfan i’r diweddaraf gan artistiaid Cymraeg sefydledig a newydd.

Dros y degawd diwethaf, mae Dydd Miwsig Cymru wedi cyrraedd pob cwr o’r byd, gyda gigs yn cael eu cynnal o Budapest i Brooklyn, ochr yn ochr â digwyddiadau di-rif yng Nghymru. Wrth i’r ymgyrch gyrraedd ei degfed blwyddyn, bydd 2025 yn cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gefnogwyr gymryd rhan. Bydd mwy o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer tro nesaf yn dilyn, ond mae manylion peth o’r gweithgarwch eisoes wedi’i ddatgelu. 

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys y gwobrau ‘Sound of Miwsig 2025’ y bu disgwyl mawr amdanynt. Gan ddechrau wythnos diwethaf, bydd rhwydwaith o dros 200 o artistiaid, DJs, hyrwyddwyr, a gweithwyr proffesiynol ym myd cerddoriaeth yn cyflwyno eu dewisiadau nhw ar gyfer yr artistiaid fydd yn siapio cerddoriaeth Gymraeg yn y flwyddyn i ddod yn eu barn nhw. 

Bydd rhestr hir yn cael ei datgelu yn y flwyddyn newydd, a bydd y pump uchaf yn cael eu datgelu yn yr wythnos yn arwain at Ddydd Miwsig Cymru. Bydd yr enillydd terfynol, a gaiff ei gyhoeddi ar Chwefror 7, yn ymuno ag enillwyr y gorffennol fel y rapwyr Lloyd, Dom & Don ar y diwrnod nodedig yma.

I’r selogion sydd eisiau ymuno â’r dathlu, mae Dydd Miwsig Cymru 2025 yn cynnig mwy o ffyrdd nag erioed o gymryd rhan, boed hynny ar-lein neu’n bersonol. Gall y rhai sy’n mynd i ddigwyddiadau byw ddisgwyl ychwanegiadau a phartneriaethau cyffrous, wedi’u cynllunio i wneud y diwrnod yn un cofiadwy i newydd-ddyfodiaid a chefnogwyr profiadol fel ei gilydd. 

Bydd ysgolion ledled Cymru yn parhau â’u perthynas degawd o hyd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau, o gystadlaethau cerddoriaeth i weithdai cyfansoddi caneuon, gan roi llwyfan i’r genhedlaeth nesaf o dalent Cymraeg.

I’r rhai sy’n methu bod yn bresennol yn bersonol, mae digonedd o ffyrdd i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg gartref. Bydd amrywiaeth o restrau chwarae sy’n cyfleu’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ddeinamig, wedi’u curadu’n ofalus dros y blynyddoedd, ar gael, gyda genres, naws, a themâu sydd wedi’u cynllunio i gyflwyno’r gerddoriaeth Gymraeg orau i’r gwrandawyr. 

Gall unrhyw un sydd am ymuno yn yr hwyl ar Ddydd Miwsig Cymru 2025 wneud hynny drwy gynnal eu gigs eu hunain, rhannu eu hoff ganeuon Cymraeg neu gymryd rhan yn her ‘Dewis 10’ – rhestru eu 10 trac Cymraeg gorau nhw ar gyfryngau cymdeithasol gan enwebu ffrind, cydweithiwr, aelod o’r teulu neu gyfaill gig i wneud yr un peth.

“Mae’r sîn yng Nghymruyn buzzio ar hyn o bryd, hefo gymaint o amrywiaeth o gerddoriaeth ac aritistiad” meddai Tara Bandito, teilyngwr Sound of Miwsig llynedd. 

“I mi, beth sydd yn wych am weithio hefo Dydd Miwsig Cymru yw ei bod yn gweithio’n galed i ddod a miwsig Cymraeg i fewn i ysgolion fel bod y genhedlaeth nesaf wir yn ymwybodol o safon a bodolaeth cerddoriaeth Cymru ac yn medru bod yn rhan o’r gymuned arbennig yma. Pen-blwydd Hapus Dydd Miwsig Cymru!”

Gadael Ymateb