Bydd y band chwedlonol o Ddyffryn Conwy, Melys, yn dychwelyd gyda sengl newydd ar ddiwedd mis Tachwedd.
‘Santa Cruz’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y band a ffurfiodd yn wreiddiol yn y 1990au, ac fe fydd yn cael ei ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol ar 29 Tachwedd.
Daw’r sengl o albwm newydd Melys a fydd yn cael ei ryddhau yng ngwanwyn 2025.
Mae’r cynnyrch diweddaraf yma’n dilyn rhyddhau eu ‘BBC Radio Sessions (Vol 1)’ yn Ebrill 20224, oedd yn cynnwys traciau sesiwn wedi eu recordio ar gyfer y cyflwynwyr Huw Stephens, Adam Walton a John Peel. Mae Melys yn cael eu cydnabod fel un o hoff fandiau John Peel, a bu iddynt recordio 11 o sesiynau iddo dros y blynyddoedd.
A hwythau yn eu hanterth tua diwedd cyfnod ‘Cŵl Cymru’, ‘Santa Cruz’ ydy cynnyrch newydd cyntaf y band ers 2005 a’r albwm ‘Life’s Too Short’.
“Mae wedi bod yn rhy hir; rydyn ni’n teimlo fel band newydd sbon eto” meddai Andrea Parker, canwr Melys.
Cafodd ‘Santa Cruz’ ei hysbrydoli gan, a’i hysgrifennu am daith ddiweddar i Galiffornia ble bu i Andrea a Paul (Adams, gitarydd Melys), wireddu breuddwyd o yrru ar briffordd arfordir y Cefnfor Tawel (Pacific) o San Diego i San Francisco.
Bydd Melys yn perfformio cyfres fer o gigs o gwmpas dyddiad rhyddhau’r sengl newydd, gan ymweld â Wrecsam, Aberystwyth ac Abertawe.
Dyddiadau gigs Melys:
28 Tachwedd – The Rockin’ Chair, Wrecsam
30 Tachwedd – Y Cwps, Aberystwyth
01 Rhagfyr – The Bunkhouse, Abertawe