Twrw Trwy’r Dydd  yn dychwelyd fis Rhagfyr

Mae cyfres gigs poblogaidd ‘Twrw Trwy’r Dydd’ wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad diweddaraf a fydd yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr.

Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ydy lleoliad Twrw Trwy’r Dydd, a bydd y gig nesaf dan y faner yn cael ei lwyfannu yno ar ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr.

Y bandiau sy’n perfformio ydy Hyll, Sywel Nyw ac ifan (Gwilym), ynghyd ag enwau pellach fydd yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach. 

 

Gadael Ymateb