Mae’r ddeuawd o Fachynlleth, National Milk Bar, wedi rhyddhau eu EP newydd.
Band dwy-ieithog ydy National Milk Bar, ond casgliad o 6 trac Cymraeg sydd ar yr EP ‘Gwdihŵ’.
National Milk Bar ydy Shasha Jacobs a Jason Childs, ac maent yn creu cerddoriaeth electronig yn bennaf. Mae’r EP Cymraeg yn dilyn EP arall o ganeuon Saesneg, ac un gân Gymraeg, a ryddhawyd ym mis Medi eleni dan yr enw ‘Superhero’.
Daw’r casgliad byr hefyd yn dynn ar sodlau eu sengl Nadoligaidd, ‘Pluen Eira’, a ryddhawyd yn ddigidol bythefnos yn ôl.
Mae’r EP newydd ar gael yn ddigidol, ond hefyd ar ffurf CD, ac mae modd eu harchebu ar safle Bandcamp National Milk Bar nawr.
Dyma ‘Pluen Eira’: