EP diweddaraf Lowri Evans ar CD

Yn dilyn rhyddhau ‘Beth am y gwir?’ ar ffurf CD ddechrau mis Ebrill, mae EP newydd Lowri Evans bellach allan yn ddigidol drwy Recordiau Shimi.

Dyma yw pumed EP Lowri ac mae’n llawn storïau personol sy’n hiraethu am y gorffennol, ymdopi â byw yn y presennol a chwestiynu’r hyn sy’n ymwneud â’n dyfodol.

Mae Lowri wedi bod yn perfformio mewn cyfres o gigs ledled Cymru ers mis Ebrill i hyrwyddo’r EP newydd, gydag ambell gig arall i ddod ym mis Mehefin, gan gynnwys yng Nghlwb y Bont, Pontypridd ar 14 Mehefin.

Dyma deitl drac yr EP: