Sengl Georgia Ruth, sy’n rhannu enw nofel gyntaf

Mae Georgia Ruth wei rhyddhau’r bedwaredd sengl oddi-ar ei halbwm nesaf, ‘Cool Head’.

Enw’r trac diweddaraf i lanio ganddi ydy ‘Tell Me Who I Am’, ac mae allan ar label Bubblewrap Collective. 

Dyma’r bedwerydd trac oddi ar yr albwm hir-ddisgwyledig ac mae’n clymu’r casgliad gyda nofel gyntaf Georgia sydd hefyd yn rhannu’r teitl, ‘Tell Me Who I Am’. Wedi’i hysgrifennu yn ystod y cyfnod clo, mae’r nofel yn adrodd hanes cerddor atgofus – Jude Lewis – sy’n dychwelyd i’w ardal enedigol yn Sir Gaerfyrddin ac yn cael ail gyfle (mewn mwy nag un ffordd).

“Jude oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r gân hon” eglura Georgia. 

“Mae’n gân na allwn i byth fod wedi ysgrifennu hebddo fe. Fe oedd yn gyfrifol am y cordiau, y geiriau a naws y gân ei hun ond roeddwn i’n awyddus ei chanu ar yr albwm. Roedd popeth i weld yn gweithio a’n ffitio’n berffaith. Mae ’na deimlad hiraethus yn perthyn i’r nofel ac er bod stori Jude yn wahanol i minnau, nes i ddod o hyd i gysur yn ei eiriau.” 

Recordiwyd y gân yn fyw yn stiwdio Sain gyda Gruff Ab Arwel yn ychwanegu’r trefniannau llinynnol (wedi’i berfformio gan Angharad Davies, Angharad Jenkins a Patrick Rimes). 

“Roedd ryw ymdeimlad arbennig yn yr ystafell pan wnaethon ni recordio’r trac ac er na wnaethom ymarfer ryw lawer, daeth y cyfan at ei gilydd – yn union fel y daw hi i Jude yn y nofel” meddai Georgia.

Bydd yr albwm, ‘Cool Head’, yn dilyn y sengl ar 21 Mehefin drwy Recordiau Bubblewrap.