Mae’r prosiect cerddorol Cymraeg o Birmingham, Ffos Goch, wedi rhyddhau cynnyrch newydd ar ffurf yr EP ‘Celanedd / Rhinwedd’.
Dyma’r gerddoriaeth ddiweddaraf i lanio can brosiect y cerddor profiadol a hynod gynhyrchiol. Stuart Estell.
Mae’r EP yn un unigryw iawn gan ei fod yn cynnwys dau ymson Shakespearaidd sydd wedi’u haddasu i’r Gymraeg gan Stuart ei hun.
Mae’r casgliad byr hefyd yn cynnwys dau drac offerynnol newydd.
“Mae’r ymsonau yn dod o’r ddrama Measure for Measure gan William Shakespeare, drama sy’n gofyn cwestiynau anodd am ragrith” eglura Estell.
“Tra bod Angelo am gymryd mantais o’i bŵer er ei fod yn proffesu egwyddorion Piwritanaidd, mae Isabella am gadw ei phurdeb ar bob cyfrif, hyd yn oed os bydd hynny’n golygu bod rhaid i’w brawd farw.”
Yn ôl y cerddor, mae’r ddrama’n un amserol dros ben ac yn adleisio pynciau trafod sydd wedi bod yn amlwg iawn yn y newyddion dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r ddrama’n un modern iawn, sy’n gweiddi #metoo, er bod y diweddglo’n teimlo braidd yn annymunol i gynulleidfa gyfoes” meddai Stuart Estell.
Bydd trac gan Ffos Goch, sef ‘Rhywbeth o’i Le’, yn ymddangos ar ail record feinyl cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar sy’n cael ei ryddhau fis Awst.
Bydd sengl arall gan Ffos Goch, ‘Blino’, hefyd yn cael ei rhyddhau ddiwedd mis Awst.
Mae’r EP ‘Celanedd / Rhinwedd’ allan ar y llwyfannau digidol arferol nawr.