Cwta bythefnos ar ôl iddynt ryddhau eu sengl ddiwethaf, mae’r band cyffrous o Gaerdydd, Cyn Cwsg, yn ôl gyda thrac newydd arall.
‘Hapusach’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 26 Gorffennaf, ac sy’n dilyn yn dynn ar sodlau ‘Gwranda Frawd’ a ryddhawyd ar 10 Gorffennaf.
Bellach yn rhyddhau drwy’r label annibynnol, Lwcus T, mae ‘Hapusach’ yn dilyn templed seinyddol eu senglau blaenorol gydag alawon cynnes, geiriau ffraeth a harmonïau heintus sy’n cydio’n dynn o’r curiad cyntaf.
Yn camu’n ôl er mwyn neidio ymlaen, mae’r trac yn gawl o ddylanwadau’r band – o felodïau cywrain cewri Cymraeg fel Super Furry Animals, Y Cyrff ac Y Nhw – i synau amrwd a llac y ddeuawd o Fecsico, Sgt. Papers.
Wedi iddynt weithio gyda’r cynhyrchydd Sywel Nyw ar eu senglau cyntaf ddechrau’r flwyddyn, Krissy Jenkins (Gruff Rhys, Cate le Bon) fu’n cynhyrchu’r ddau drac diweddaraf yn ei stiwdio yn Grangetown, Gaerdydd.
Tra bod ‘Gwranda Frawd’ yn rhamantu brawdoliaeth a ffyddlondeb, mae ‘Hapusach’ yn mynd â hynny gam ymhellach wrth hiraethu am berthynas gyda rhywun arbennig.
“Hon oedd un o’r caneuon cyntaf, os nad y gyntaf, i ni chwarae gyda’n gilydd fel band” eglura’r prif leisydd a’r gitarydd, Obed Powell-Davies.
“‘Da ni gyd yn ffans mawr o’r Super Furry Animals ers erioed ac wedi trio dynwared rhai o’r synau oedden ni’n ei fwynhau o’r albwm ‘Radiator’ ar y sengl yma. A’thon ni mor bell a trio dod o hyd i theremin hyd yn oed, ond oedd rhaid setlo gyda llais Tom yn diwedd!
“Mae’n drac hwyliog a’n reit selog a deud y gwir ac wedi teimlo fel un naturiol i ni ’recordio o’r cychwyn.
“Gafodd y bas a’r dryms eu recordio’n fyw mewn stiwdio gymunedol ar Ffordd Churchill yng Nghaerdydd a dwi’n meddwl bod y teimlad byw yna wedi’i ddal yn berffaith – diolch i’n main man, Krissy Jenkins.”
Mae ‘Hapusach’ allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol ers 26 Gorffennaf ac roedd cyfle i glywed Cyn Cwsg yn gwneud sesiwn fyw ar raglen Riley & Coe ar BBC 6 Music wythnos diwethaf. Mae modd gwrando nôl ar y rhaglen a’r sesiwn ar hyn o bryd.
Prif lun: Cyn Cwsg @ Sesiwn Fawr Dolgellau 2024 (Llun: Huw Morris-Jones)