Yn dilyn rhyddhau senglau cyntaf Cyn Cwsg a BERIAN yn gynharach yn y flwyddyn, mae label UNTRO wedi cyhoeddi mai’r trydydd artist fydd yn rhyddhau ar y label yw’r artist amlddisgyblaethol o Gaerdydd, Ffion Campbell-Davies.
Wedi troi yn y cylchoedd celfyddydol ers sawl blwyddyn – yn y meysydd dawns a ffilm yn bennaf – mae Ffion bellach yn troi eu llaw at gerddoriaeth wrth ryddhau ‘Yn Yr Afon / Khalon’, ddydd Gwener diwethaf 26 Gorffennaf.
Wedi’u recordio yn wreiddiol ar gyfer sesiwn Georgia Ruth ar BBC Radio Cymru fis Ebrill, mae’r ddau drac yn plethu gweadau lleisiol amrywiol gydag elfennau o gerddoriaeth electroneg a gwerin.
“Ar ôl cael y cyfle i gynhyrchu dau drac ar gyfer rhaglen Georgia Ruth, roeddwn i’n awyddus i wneud rhywbeth a allai gario naill ai’r tywyllwch a’r goleuni” eglura Ffion.
“Dwi’n teimlo fel bod ymdeimlad o gynhesrwydd a dyfnder yn perthyn i’r ddwy gân.”
Yn ôl yr artist, mae’r gerddoriaeth yn ymdrin â themâu sy’n cynnwys natur, newid a chariad.
“Mae ‘Khalon’ yn gân am berthynas sy’n newid dros amser tra bod ‘Yn Yr Afon’ am burdeb a’r byd natur” meddai Ffion.
“Er yn ymddangos fel cân syml, mae mwy iddi dan y wyneb. Mae’r gân hefyd yn atgof o aileni, ildio a rhyddid”.
Wedi gweithio ar sawl prosiect gweledol dros y blynyddoedd diwethaf, bu i Ffion gyfarwyddo’r fideo sy’n cyd-fynd â’r trac, fydd yn cael ei ddangos yn Chapter yr wythnos hon cyn pob dangosiad o’r ffilm, ‘Crossing’.
Mae UNTRO yn bartneriaeth rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust. Y bwriad ydy yw cynrychioli, cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru gan roi iddynt y profiad o ddysgu am y broses o ryddhau a hyrwyddo caneuon.