Ynys yn SUNS

Dros y penwythnos bu’r band Cymraeg, Ynys, yn perfformio gigs fel rhan o ŵyl SUNS Europe yn Udine, Yr Eidal.

Nos Wener (18 Hydref) roedden nhw’n perfformio yn lleoliad Yardie, Pradamano ac yna nos Sadwrn (19 Hydref) yn Teatro Nuovo Giovanni da Udine.

Gŵyl celfyddydau perfformio Ewropeaidd mewn ieithoedd lleiafrifol ydy SUNS Europe. Ynys ydy’r band Cymraeg diweddaraf i berfformio yno gan ddilyn HMS Morris, SYBS ac Adwaith i enwi rhai fu yn SUNS dros y blynyddoedd diwethaf.