Mae fideo diweddaraf yr artist cerddorol Talulah wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Talulah oedd enillydd haeddiannol gwobr Triskel yn seremoni Welsh Music Prize yn 2023, gan fynd o nerth i nerth ers hynny a rhyddhau eu EP cyntaf yn ddiweddar.
Fideo ar gyfer un o draciau’r EP hwnnw, sef ‘Galaru’, ydy’r un newydd ar Lŵp.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Galaru’: