Rhyddhau Cân y Croeso Eisteddof yr Urdd 2025 

Fel rhan o ddathliadau Croeso i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam ym mis Mai, mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi cân swyddogol y croeso. 

Mae’r gân wedi ei chreu gan bobl ifanc yr ardal, ar y cyd gyda Huw Chiswell a Bronwen Lewis – yr enw priodol ydy ‘Cân y Croeso Eisteddfod Dur a Môr’.

Yn dilyn gweithdai gyda phobl ifanc ar draws rhanbarth Gorllewin Morgannwg, cyfansoddwyd ac ysgrifennwyd y gân gan Huw Chiswell a Bronwen Lewis, dau sy’n lleol i’r ardal ac yn ymfalchïo yn eu bro. 

Roedd mewnbwn y bobl ifanc i eiriau a naws y gân yn hollbwysig wrth gyfleu’r croeso i ddiwydiant a diwylliant yr ardal a bod llais plant a phobl ifanc y sir i’w clywed yn ogystal ag artistiaid lleol. 

Roedd y bobl ifanc yn gryf eu barn bod angen fideo cerddoriaeth oedd yn adlewyrchu traddodiadau perfformio a diwydiannau’r ardal. Roedd cerddoriaeth glasurol a dawns yn elfennau hollbwysig i’w cynnwys. 

Cymerodd 2000 o blant a phobl ifanc rhanbarth Gorllewin Morgannwg ran yn y fideo cerddoriaeth gyda Huw a Bronwen. Roedd y fideo cerddoriaeth yn cael ei lansio mewn gig arbennig ar y 16 Tachwedd gyda Huw Chiswell, Bronwen Lewis yn perfformio ynghyd â’r cantorion ifanc sydd ar y trac fel rhan o ddathliadau Croeso Eisteddfod yr Urdd 2025.

Mae sawl digwyddiad yn rhan o’r Ŵyl Groeso, gan gynnwys Jamboris i’r plant cynradd lleol lle bydd y gân yn cael ei chwarae a’i chanu, parêd gydag ysgolion a busnesau’r ardal ar y 26 Tachwedd, i ddathlu union 6 mis tan ddechrau Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, a dechreuodd y dathliadau nol ym mis Medi gyda chymanfa ganu. 

Bydd y dathliadau yn dod i ben ar y 12 Rhagfyr gyda dathliadau’r Nadolig a Theilwng yw’r Oen gan ysgolion Uwchradd yr ardal.

Dyma ‘Cân y Croeso Dur a Môr’:

Gadael Ymateb