Artistiaid Cymraeg a Chymreig ar restr Gwobr Neutron

Mae chwe artist o Gymru wedi eu cynnwys ar restr hir ‘Gwobr Neutron’ eleni, sef gwobr amgen gwefan gerddoriaeth God is in The TV, a’u gwrthbwynt hwy i Wobr Mercury. 

Deuddeg o artistiaid o Gymru, Yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon sydd ar y rhestr hir i gyd gan olygu bod hanner yr artistiaid eleni o Gymru gyda phedwar o’r rhain yn canu yn y Gymraeg neu’n ddwy-ieithog sef Chroma, Ynys, Y Dail a Georgia Ruth. 

Y ddau artist arall o Gymru ar y rhestr hir ydy’r cynhyrchydd a DJ o Gaerydd, Elkka, a’r rapiwr o Gasnewydd, Lemfreck. Mae’r rhestr hir hefyd yn cynnwys artist arall sydd â chysylltiadau Cymreig ac a ryddhaodd albwm dan yr enw ‘Iechyd Da’ ym mis Ionawr eleni, Bill Ryder-Jones. 

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Ynys ymddangos ar y rhestr fer ar ôl i’w halbwm hunan-deitlog gyrraedd y rhestr llynedd.

Cymraes sy’n canu yn y Saesneg, Bethan Lloyd, oedd yr enillydd llynedd gyda’i halbwm Metamorphosis, ond albwm Cymraeg ddaeth i’r brig yn 2022, sef Bato Mato gan Adwaith a gipiodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn yr un flwyddyn. Adwaith, gyda’r albwm Melyn, oedd enillydd y wobr yn 2019 hefyd.

Er bod recordiau Cymraeg wedi ymddangos ar y rhestr fer yn rheolaidd dros y blynyddoedd, dyma’r mwyaf i gael eu cynnwys ar y rhestr ers 2020 pan roedd chwech record Gymraeg neu ddwy-ieithog wedi eu dewis.

Mae’r rhestr wedi ei dewis gan olygyddion a chyfranwyr God is in The TV ar sail recordiau sydd wedi’u rhyddhau dros y deuddeg mis diwethaf. 

Bydd enillydd y wobr eleni’n cael ei ddatgelu ddiwedd mis Medi. 

Gwefan gerddoriaeth a diwylliant ydy God is in The TV a ddathlodd ben-blwydd yn 20 oed llynedd. Mae’r wefan yn ymfalchio yn eu cefnogaeth i artistiaid newydd ac annibynnol. 

Dyma restr hir Gwobr Neutron yn llawn: 

Bob Vylan – Humble As The Sun

Camera Obscura – Look To The East, Look To The West

Chroma – Ask for Angela

Bill Ryder-Jones – Iechya Da

Elkka – Prism of Pleasure

Enjoyable Listens – Trapped in the Cage of a Hateful Bird

Georgia Ruth – Cool Head

L E M F R E C K – Blood, Sweat & Fears

SPRINTS – Letter to Self
Whitelands- Night-bound Eyes Are Blind To The Day

Y Dail –  Teigr

Ynys- Dosbarth Nos

Gadael Ymateb