Wrth i 2024 ddirwyn i ben, mae’r delynores o Fachynlleth, Cerys Hafana, wedi cyhoeddi manylion y gigs sydd ar y gweill ganddi yn y flwyddyn newydd.
Mae’r artist wedi cyhoeddi manylion cyfres o 10 o gigs sydd wedi eu trefnu ganddi rhwng Ionawr a Mai 2025 sydd yn ei gweld yn ymweld â lleoliadau sy’n cynnwys Llundain, Northampton, Bryste, Abertawe ac wrth gwrs Machynlleth.
Mae manylion llawn y gigs ar ei gwefan, ond dyma’r dyddiadau sydd wedi eu cadarnhau hyd yma:
Gigs Cerys Hafana dechrau 2025:
28/01/25 – Elgar Room, Royal Albert Hall, Llundain
30/01/25 – Y Tabernacl, Machynlleth (gyda Zeynep Öykü)
14/02/25 – Bangor Music Festival, Pontio Bangor
20/03/25 – Acapela Studio, Pentyrch
21/03/25 – Cwrw, Caerfyrddin SLUSH FUND (gyda Warm Leveret a Spirited Followers)
23/03/25 – Strange Brew, Bryste (Ear Trumpet Music)
26/03/25 – Bunkhouse, Abertawe
4/05/25 – V and B, Northampton
5/05/25 – MOTH CLUB, Llundain
7/05/25 – Future Yard, Penbedw
Manylion gigs ar wefan Cerys Hafana: