Sengl Huw Aye Rebals ar y ffordd

Mae’r band o Fôn, Huw Aye Rebals, wedi datgelu y byddan nhw’n rhyddhau eu sengl ddiweddaraf cyn diwedd y flwyddyn.

‘Dyddiau Chwim’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar 31 Rhagfyr, a sy’n gweld y band yn cyd-weithio gyda Heledd Morgan sy’n westai ar y sengl. 

Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’w EP cyntaf, Boni a Claid. a ryddhawyd ar ddechrau’r hydref, a’r sengl ‘Halen y Ddaear’ a ddilynodd fis Tachwedd.

Dyma’r fideo ar gyfer prif sengl yr EP, ‘Dawnsio Hefo’r Aer’:

 

Gadael Ymateb