Rhys Llwyd Jones yn dymuno ‘Nadolig Llawen’

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, Rhys Llwyd Jones wedi rhyddhau ei ymgais ar sengl Nadolig eleni. 

‘Nadolig Llawen’ ydy’r enw addas iawn ar y trac newydd sydd allan yn ddigidol ers dydd Gwener diwethaf, 20 Rhagfyr. 

Nid hon ydy ymgais gyntaf Rhys Llwyd Jones ar sengl nadoligaidd – mae’n ddilyniant i’r trac a ryddhawyd ganddo flwyddyn yn ôl, ‘Hwyl yr Wyl’.

Mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan Sion Russell Jones, ac wedi ei fastro gan Frank Naughton. Mae Sion Russell Jones hefyd yn chwarae offerynnau amrywiol ar y trac. 

 

Gadael Ymateb