Mae’r band o Fôn, Huw Aye Rebals, wedi rhyddhau ei EP cyntaf dan yr enw Boni a Claid.
Huw Aye Rebals ydy’r band pump aelod sy’n cael eu harwain gan y ffryntman Huw Al, sy’n canu ac yn chwarae’r gitâr acwstig.
Aelodau eraill y band ydy Hayden Morgan ar y bass, Alex Roberts ar y drums, Tom Greenalgh ar y gitâr flaen a llais cefndir, a Barry Flash ar y gitâr rythm ac allweddellau.
Mae’r band yn chwarae cerddoriaeth roc gwlad a gwerin indie, ac wedi bod yn brysur yn gigio dros yr haf gan brysur ehangu eu cyrhaeddiad.
Pedair cân sydd ar yr EP cyntaf a recordiwyd gyda Rich Roberts yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.
Ag yntau’n dod yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, mae Huw yn adnabod Rich ers yn blentyn felly’n ddigon cyfarwydd â’r cynhyrchydd cynhyrchiol.
Adeiladu sylfaen i’r band
Dechreuodd Huw ar y prosiect fel un unigol gan recordio gartref a chystadlu unwaith ar gyfer cystadleuaeth Cân i Gymru. Er na chafodd lwyddiant yn y gystadleuaeth, rhoddodd hynny’r ysgogiad iddo ddal ati wrth sylweddoli cymaint o angerdd oedd ganddo at gerddoriaeth.
Wrth fynd ati i adeiladu band, dywed Huw ei fod wedi wynebu ambell her ond ei fod yn hapus iawn gyda’r canlyniad.
“Mae hi mor anodd ffendio hogia sy’n chwarae yn y gogledd sy’ ddim mewn band yn barod neu sydd actually isio chwarae miwsic byw” meddai Huw.
“Nes i gwrdd a Tom mewn open mic a dangos y gân ‘Adra’ [iddo], a ddoth Hayden i mewn o fand cover Coman Jeros oddan ni’n arfar chwarae ynddo.
“Yn slo bach fe adeiladodd sylfaen y band tan ddoth y Rebals at ei gilydd ac mi gliciodd pawb yn berffaith ar ôl y gân gyntaf ‘aru ni chwarae efo’n gilydd.”
Dywed Huw ei fod yn hoff iawn o deithio, ac mai ei uchelgais ar gyfer y band ydy teithio i Batagonia er mwyn chwarae i’r gymuned Gymraeg yno.
Fel ‘Oasis Cymraeg’?
Pedair cân sydd ar yr EP, gyda ‘Boni a Claid’ yn un o’r rhai sy’n dal y sylw – cân serch mae Huw wedi ysgrifennu i’w bartner, Heledd, ydy hon.
Mae ‘Dawnsio Hefo’r Aer’ yn un arall sy’n cydio yn y glust, ac yn ôl Huw mae hon yn gân deimladwy i bawb sydd wedi colli rhywun agos:
“Hon yw fy ffefryn, ac mae’n dangos y steil a’r weledigaeth sy’ gena’i yn fy mhen i’r band yma” meddai’r canwr.
Yn ôl Huw, cerddoriaeth indie fu ei brif ddiddordeb erioed, ond ei fod wedi cwympo mewn cariad gyda cherddoriaeth gwlad wrth fynd yn hŷn.
Mae o’r farn bod y ddau arddull yn gweddu’n dda gyda’i gilydd a bod ‘Dawnsio gyda’r Aer’ bron fel ‘clywad rhyw gân Oasis Gymraeg wedi ei chanu mewn steil gwlad”.
Bydd cyfle i weld yr Huw Aye Rebals yn perfformio’n fyw yng nghlwb y Wellmans yn Llangefni ar 19 Hydref mewn noson arbennig o godi arian tuag at dimau pêl-droed merched dan 12 a dan 10 Llanfair PG.
Dyma’r fideo geiriau ar gyfer ‘Dawnsio Hefo’r Aer’: