Mae prosiect diweddaraf y cerddor Ifan Rhys Williams, Sylfaen, wedi rhyddhau ei sengl newydd.
Dyma’i drydedd sengl dan yr enw Sylfaen, a’r tro hwn mae wedi mynd ati i gyd-weithio gyda’r cerddor amlwg Hywel Pitts.
‘Creu dy Fyd’ ydy enw’r trac sy’n ffrwyth partneriaeth rhyngddo â phrif ganwr y band I Fight Lions.
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i’r ddwy sengl flaenorol a ryddhawyd gan Sylfaen sef ‘Canfas Gwyn’ a ‘Byw yn Awr‘, a welodd Ifan yn cydweithio gyda’i chwaer, Alys Williams, a’r canwr profiadol, Elidyr Glyn.
Wedi gwneud enw iddo’i hun yn wreiddiol am ganu gyda’r band roc, I Fight Lions, mae Hywel Pitts bellach yn un o ganwyr comedi fwyaf blaenllaw Cymru yn ogystal â bod yn berfformiwr rheoliadd gyda chriw Cabarela.
Mae Ifan wedi bod yn ran o sawl band arall yn ystod ei yrfa gerddorol, yn cyfansoddi ac yn chwarae gitâr gyda’r band, Hud/Creision Hud, ac mae hefyd yn brif gitarydd i’r band Achlysurol erbyn hyn.
Cychwynnodd y prosiect, ‘Sylfaen’, fel cerbyd i ryddhau cân a gafodd ei hysgrifennu’n wreiddiol i’w wraig, yr artist Lisa Eurgain Taylor, ar ddiwrnod eu priodas.
Yn gweithio ar fwy o gynnyrch newydd ar hyn o bryd, mae’n werth cadw lygad i weld pwy fydd Sylfaen yn cydweithio gyda nesaf.