‘Byw am Byth’ – sengl newydd Tokomololo

Mae’r artist electronig Tokomololo wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 27 Medi. 

 ‘Byw am Byth’ ydy enw’r trac newydd sydd unwaith eto’n “torri ffiniau” yn ôl label  HOSC.

Dyma’r bedwaredd sengl i Meilir Tee Evans ryddhau dan yr enw Tokomololo gan ddilyn ei sengl gyntaf, ‘Gafael yn Sownd’ yn Nhachwedd 2023, ‘Seibiant’ ym mis Mawrth 2024, ac yna ‘Disglair’ ym mis Mehefin eleni.  

Cafodd y cerddor hefyd flas ar berfformio’n fyw am y tro cyntaf yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan ar ddechrau mis Medi, yn arddangos ei lŵps hudolus a’i ddawn am greu synau celfydd cynnes. 

Tokomololo oedd un o’r artistiaid cyntaf i ymuno â label HOSC, wedi i’r cynhyrchydd, Ifan Dafydd, ei awgrymu i’r label ar ôl clywed demo cynnar o’i gân gyntaf, ‘Gafael yn Sownd’. 

Ag yntau yn y broses o recordio albwm, mae’r artist, sy’n byw yn ardal Caernarfon, yn addo mwy o ddanteithion melys dros y misoedd nesaf.