Klust yn curadu albwm aml-gyfrannog

Mae label Recordiau Sain a gwefan gerddoriaeth Klust wedi partneru i ryddhau albwm aml-gyfrannog fydd allan ar feinyl 12” fis Tachwedd 2024.

‘Stafell Sbâr Sain’ ydy enw’r record fydd allan fel rhan o brosiect cydweithredol newydd a lansiwyd gan Sain – bydd yr albwm yn cynnwys deg trac wedi eu curadu gan Klust. 

Y gyntaf mewn cyfres o recordiau, mae’r casgliad cyntaf hwn yn cynnwys gweithiau gwreiddiol gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd gan gynnwys Talulah, WRKHOUSE, Malan, Siula a Sywel Nyw a bydd yn cael ei ryddhau fel rhan o becyn ecsgliwsif gyda’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Klust.

Recordiwyd y traciau yn Stiwdio 1 yn Sain, Llandwrog, dros gyfnod o chwe mis, gyda’r cyfarwyddwr ffilm, Aled Victor, yn creu cyfres o fideos tu ôl i’r llen i gyd-fynd â phob un o’r pum sesiwn byw. 

Wedi’i lansio yn 2022, mae Klust yn llwyfan aml-gyfrwng i ddathlu, cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth newydd o Gymru, ac addas, felly, yw cael Klust i ddewis y traciau ar gyfer ‘Stafell Sbâr’ cyntaf Sain.

“Mae’n gasgliad cynhwysfawr a dwyieithog, o draciau newydd sbon a fersiynau gwahanol o ganeuon sydd wedi eu rhyddhau eisoes ac mae’n tynnu sylw at rai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru heddiw” eglura sylfaenydd gwefan Klust, Owain Williams.  

“Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau law yn llaw â thrydydd cylchgrawn Klust — rhifyn 60 tudalen arbennig gyda chyfraniadau gan ugain awdur newydd o Gymru.”

Y cyntaf mewn cyfres o brosiectau cyd-weithio cyffrous gan Sain, bydd ‘Stafell Sbâr’ yn cael ei lansio yng Nghaffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol, nos Wener 9 Awst, gyda’r artistiaid a’r cynhyrchwyr Sywel Nyw, Talulah, Alaw a Don Leisure yn troelli’r traciau rhwng 19:00-22:00.

Dyluniwyd yr albwm, a’r cylchgrawn, gan y dylunydd graffeg annibynnol, Elis Povey. 

Wedi’i wasgu ar 200 copi arbennig yn defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar, bydd y feinyl yn cael ei ryddhau fis Tachwedd ac ar gael yn ddigidol yn y flwyddyn newydd drwy Recordiau Sain. Mae’r record ar gael i’w rag archebu nawr.