Dathlu enillwyr Gwobrau’r Selar yng Nghaffi Maes B

Bydd sesiwn arbennig yn cael ei chynnal yng Nghaffi Maes B ar ddydd Iau Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, 8 Awst, i ddathlu enillwyr Gwobrau’r Selar.

Cyhoeddwyd enillwyr diweddaraf Gwobrau’r Selar dros wythnos arbennig o ddathlu ar Radio Cymru fis Chwefror.

Wrth gwrs, er bod modd datgelu’r enillwyr ar raglenni Radio Cymru, does dim modd cyflwyno’r gwobrau eu hunain dros y tonfeddi felly bydd sesiwn arbennig yng Nghaffi Maes B er mwyn trosglwyddo’r tlysau i nifer o’r enillwyr.

Gruffudd ab Owain, Golygydd Y Selar, fydd yn llywio’r digwyddiad a bydd yn cael cwmni Glyn o’r band Mellt, Malan a chriw Tin Sardines – pob un wedi dod i frig pleidlais un o gategoriau Gwobrau’r Selar eleni.

Enillodd Mellt y wobr am y Record Hir Orau gyda’u halbwm diweddaraf, Dim Dwywaith.

Malan oedd enillydd y wobr am yr Artist Unigol Gorau yt tro hwn, a threfnwyr gigs Tin Sardines ddaeth i frig y bleidlais yn y categori ‘Seren y Sin’.

Bydd nifer o enillwyr eraill eleni yn y gynulleidfa ac yn derbyn eu gwobrau yn ystod y sesiwn hefyd.

Bydd yr enillwyr i gyd yn derbyn gwobr arbennig wedi’i chreu gan yr artist ifanc Luke Cotter, sydd newydd orffen ei ail flwyddyn yng ngholeg Gelf Abertawe.

Mae gwaith celf Luke yn wreiddiol iawn ac mae’n defnyddio deunyddiau ac mae wedi’u darganfod i greu cerfluniau sy’n debyg iawn i ddodrefn.

Wrth wneud y gwobrau, seiliodd Luke ei ddyluniadau ar gadair y beirdd o’r Eisteddfod gan ddefnyddio deunyddiau a ddarganfuwyd o amgylch Abertawe i droi’n finiaturau/fersiynau bach o’r darn eiconig hwnnw o ddodrefn Cymreig sydd wedi bod yn wobr i lawer o artistiaid Cymreig yn y gorffennol.

 

Rhestr lawn enillwyr Gwobrau’r Selar 2023

Cân Orau: ‘Bolmynydd’ – Pys Melyn
Gwaith Celf: Fel Hyn Fel Arfer – Y Cledrau
Artist Unigol Gorau: Malan
Band neu Artist Newydd Gorau: Dadleoli
Band Gorau: Fleur de Lys
Fideo Gorau: ‘Hotel’ – Gwcci
Record Fer Orau: Diwrnodau Haf – Dadleoli
Record Hir Orau: Dim Dwywaith – Mellt
Seren y Sin: Criw Tin Sardines
Cyfraniad Arbennig: Gai Toms
Gwobr 2023: Tara Bandito