Williams Win! – prosiect newydd cerddor cyfarwydd

Mae’r cerddor sydd wedi perfformio dan yr enwau Dafydd ap Llwyd a Monkey Sea Monkey Doo yn y gorffennol wedi dychwelyd gyda cherddoriaeth dan enw newydd.

‘Jeffrey Archer’ ydy enw’r trac cyntaf sy’n cael ei ryddhau dan yr enw prosiect newydd Williams Win!

Ar gyfer ei gynnyrch newydd mae Williams Win! wedi mentro i stiwdio’r cynhyrchydd amlwg Frank Naughton.

Mae’r trac newydd ar gael ar safle Bandcamp