Cyhoeddi blwyddlyfr Y Selar 2024, a rhifyn dathlu’r 20 mlynedd

I gloi blwyddyn arall o fywiogrwydd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, mae criw Y Selar wedi cyhoeddi ei blwyddlyfr diweddaraf, ynghyd â rhifyn arbennig o’r cylchgrawn i ddathlu pen-blwydd y cyhoeddiad yn 20 oed!

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i’r Selar gyhoeddi blwyddlyfr sy’n crynhoi newyddion cerddoriaeth Gymraeg gyfoes y flwyddyn a fu. 

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o’r blwyddlyfr yn 2021 wrth i’r Selar lansio ‘Clwb Selar’, sef clwb cefnogwyr arbennig y cylchgrawn, gwefan a brand cerddoriaeth amlwg. Mae’r blwyddlyfrau’n cael eu dosbarthu’n ecsgliwsif i aelodau ‘premiwm’ Clwb Selar, sy’n helpu ariannu’r prosiect. 

Bydd blwyddlyfr 2024 unwaith eto’n daith nostaljic yn ôl dros fisoedd y flwyddyn a fu, ac yn grynodeb o’r hyn ddigwyddodd ynghyd â chynnwys rhestr cynhwysfawr o gynnyrch newydd y flwyddyn. 

Rhifyn dathlu 20

Yn ogystal â’r blwyddlyfr, wrth i gylchgrawn Y Selar ddathlu dau ddegawd ers cyhoeddi’r rhifyn cyntaf mewn print, bydd y tîm yn cyhoeddi rhifyn dathlu arbennig sy’n daith yn ôl trwy gynnwys archif y cylchgrawn dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. 

Gruffudd ab Owain ydy golygydd cyfredol y cylchgrawn, ac ef sydd wedi bod yn gyfrifol am guradu cynnwys y rhifyn dathlu arbennig. 

“Mae’n anodd credu bod cylchgrawn Y Selar yn 20 oed, ac felly bron yn union yr un oed â fi!” meddai Gruffudd. 

“Dw i fwy neu lai wedi tyfu fyny gyda’r cylchgrawn, yn enwedig gan fod cerddoriaeth yn rhan enfawr o ’mywyd ers cyhyd ag ydw i’n gofio. Mae gen i ddiddordeb byw mewn hanes hefyd, yn enwedig wrth ystyried yr hyn sydd wedi siapio’r Gymru yr ydym ni’n ei hadnabod heddiw, a cherddoriaeth yn gymaint rhan ohoni. Mae wedi bod yn bleser pori ’nôl drwy’r ôl-rifynnau, a chyfuno’r ddau ddiddordeb fel petai.

“Nifer cyfyngedig o rifynnau o’r cylchgrawn fydd ar gael, a’r rhain yn cael eu rhannu gydag aelodau Clwb Selar i ddechrau. Bydd hefyd nifer fach ar gael i’w prynu ar-lein trwy wefan Y Selar – anrheg Nadolig bach delfrydol i unrhyw un sydd wedi mwynhau dilyn hynt a hanes y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros y ddau ddegawd diwethaf.” 

Mae modd archebu copïau o’r rhifyn arbennig yn adran Siop gwefan Y Selar nawr, ynghyd â phecynnau rhodd arbennig Clwb Selar sydd ar gael ar gyfer 2024. Mae’r pecynnau rhodd hyn yn cynnwys copi o flwyddlyfr 2024, copi o’r rhifyn arbennig ac opsiwn o un, neu’r ddwy record feinyl aml-gyfrannog Selar1 a Selar2 sydd wedi eu rhyddhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.