Lleucu Non yn rhyddhau sengl gyntaf

Lleucu Non ydy enw’r artist diweddaraf i ryddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf ar label UNTRO. 

Cyn hyn mae UNTRO wedi rhyddhau senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies, sydd oll wedi creu cryn argraff. 

Nawr, Lleucu Non yw’r pedwerydd artist i ryddhau drwy’r label, gyda’i thrac cyntaf, ‘Dwi Ar Gau’, sydd allan nawr. 

Mae ‘Dwi Ar Gau’ yn drac sy’n efelychu natur gymhleth perthynas bell, wrth i Lleucu samplo sgyrsiau coll o ebargofiant peiriant ateb ei ffôn. Yn llithro rhwng yr amrwd a’r breuddwydiol, mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan y cerddor, Sywel Nyw, ac yn cyfuno curiadau cynnil gyda melodïau moethus Lleucu. 

Yn rhan o gydweithrediad rhwng Klust a Youth Music, daeth y ddau artist ynghyd i recordio’r trac yng ngholeg LCCM yn Llundain fis Gorffennaf.  

Dechrau cyfansoddi yn y cyfnod clo

Gydag artistiaid fel Thallo, Mazzy Star a Cate le Bon ymhlith ei dylanwadau, mae ‘Dwi Ar Gau’ yn dod â syniadau seinyddol Lleucu yn fyw, wedi iddi hel samplau a chasglu synau dros gyfnod o bedair blynedd. 

“Dechreuais ‘sgwennu caneuon tua phedair blynedd yn ôl wrth ddechrau ymarfer y gitâr yn ystod y cyfnod clo” eglura Lleucu. 

“Mae’n gyffrous iawn gallu rhyddhau fy sengl gyntaf o’r diwedd!”

Cafodd Lleucu ei magu yn Nyffryn Nantlle ac bellach yn byw yng Nghaerdydd, a dywed bod y profiad o recordio wedi bod yn un arbennig o gadarnhaol iddi.  

“Roedd recordio yn Llundain a chydweithio hefo Sywel Nyw yn brofiad arbennig iawn a dwi’n falch o allu cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd mor dalentog” meddai’r artist. 

“Mae cyd-destun lyrics ‘Dwi Ar Gau’ yn agored i’w ddehongli, ond i mi, mae o’n cyfleu’r angst mae llawer o bobl yn ei deimlo ar ôl graddio, ymhlith syniadau eraill! Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac.”

Yn bodoli rhywle rhwng yr hiraethus a’r cariadus, bydd ‘Dwi Ar Gau’ allan 11 Hydref gyda fideo, sydd wedi’i animeiddio gan Lleucu Non ei hun, i ddilyn yr wythnos ganlynol.