Mae Rhys Llwyd Jones wedi ryddhau’r sengl ddwyieithog cyntaf oddi-ar ei albwm nesaf.
‘Lost Love Blues / Cwpledi’ ydy enw’r fersiynau Saesneg a Chymraeg o’r trac sydd ar gael nawr ar ei safle Bancamp.
Daw’r traciau o albwm canu gwlad newydd y cerddor profiadol, ‘You Cut, I Choose’.
Wrth drafod y sengl ddiweddaraf, dywed Rhys bod y gân ‘Cwpledi’ yn dilyn story debyg i’r gân ‘Eternal Circle’ gan Bob Dylan, ond bod y gerddoriaeth yn wahanol.
Daw’r sengl newydd yn dilyn rhyddhau ei sengl Gymraeg ‘Mewn Twll’ ym mis Mehefin eleni.
Yn ôl Rhys gallwn ddisgwyl un sengl ddwy-ieithog arall cyn i’r albwm llawn lanio. Enw’r sengl honno fydd ‘Not Me / Yn Cymryd Dim Byd o Ddifri’.
Bydd yr albwm allan cyn diwedd y flwyddyn yn ôl y cerddor.