Urdd x TG Lurgan yn chwalu ffiniau ieithyddol

Mae aelodau mudiad yr Urdd yng Nghymru a’r prosiect ieuenctid Gwyddelig, TG Lurgan, wedi mynd ati i chwalu ffiniau ieithyddol unwaith eto drwy ryddhau fideo gerddoriaeth Cymraeg/Gwyddeleg newydd.

A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol Cyfieithu a Dathlu Amlieithrwydd ar ddydd Llun, 30 Medi, bu i’r Urdd a TG Lurgan, ryddhau fersiwn Cymraeg a Gwyddeleg o’r gân boblogaidd gan Florence & the Machine, ‘Dog Days are Over’, fydd wythfed cyd-gynhyrchiad y mudiadau ieuenctid.

Daeth aelodau o’r Urdd a TG Lurgan at ei gilydd am y tro cyntaf yn Ionawr 2021 er mwyn creu’r fideo cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddeleg cyntaf erioed, ‘Golau’n Dallu / Dallta as na Solise’, sef addasiad o’r gân boblogaidd  ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. O fewn mis i’w ryddhau, roedd y fideo wedi’i gwylio dros 100,000 o weithiau.

Fis Awst eleni bu i 400 o bobl ifanc TG Lurgan a 30 o aelodau’r Urdd fynychu’r ysgol haf ‘Coláiste Lurgan’ yn Connemara er mwyn recordio’r fideo gerddoriaeth ddiweddaraf cyn perfformio casgliad o ganeuon Gwyddeleg a Chymraeg mewn cyngerdd fyw.

Wrth wraidd y cydweithio mae gweledigaeth gytûn i ddangos ieithoedd lleiafrifol fel yr endidau byw ydyn nhw, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Wyddeleg yn eu  bywydau bob dydd. 

Mae cofleidio elfennau creadigol y cydweithio hwn hefyd yn dod â’r weledigaeth hon i gynulleidfa fyd-eang, un o amcanion craidd cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru.

“Yn yr Urdd, credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r Wyddeleg i bobl Iwerddon” meddai Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol yr Urdd. 

“Mae’r Urdd a TG Lurgan yn rhannu gweledigaeth – drwy ddangos y ddwy iaith fel yr ieithoedd deinamig a pherthnasol ydyn nhw, rydyn ni’n rhoi’r hyder i bobl ifanc eu defnyddio’n eang yn eu bywydau bob dydd.

“Pa gyfrwng gwell na cherddoriaeth bop i ledaenu’r gair ac ehangu’r apêl? Mae parhau â’r prosiect hwn yn hynod gyffrous i ni ac rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at gydweithio gyda TG Lurgan yn y dyfodol.”

Yn ôl Cyfarwyddwr TG Lurgan, Mícheál Ó Foighil, mae’r proseict gyda’r Urdd yn bwysig iawn i’r mudiad Gwyddelig.  

“Mae’r prosiect hwn yn symbol o’r cysylltiadau diwylliannol dwfn rhwng ein dwy wlad” meddai  Ó Foighil. 

“Mae’n dangos sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd ac yn pwysleisio cryfder a pherthnasedd cynyddol ein hieithoedd. Mae’r digwyddiad diweddaraf hwn nid yn unig yn dangos talent pobl ifanc o Lurgan a Chymru, ond hefyd yr hoffter dwfn sydd ganddyn nhw tuag at eu diwylliant a’u celfyddydau brodorol.”

Dyma’r fideo: