Llwyfan Tŷ Tawe yng Ngŵyl Ffrinj Abertawe

Bydd lleoliad cerddoriaeth amlwg Tŷ Tawe yn cynnal llwyfan arbennig yng Ngŵyl Ffrinj Abertawe eleni.

Cynhelir yr ŵyl gerddorol yn ninas Abertawe ar benwythnos 4-5 Hydref, a bydd perfformiadau gan artistiaid Cymraeg fel rhan o’r ŵyl ar lwyfan Tŷ Tawe.

Yr artistiaid fydd yn perfformio ydy Geraint Løvgreen, Bwca, Catrin O’Neill ac Alys a’r Tri Gŵr Noeth.

Bydd tocynnau ar gyfer y llwyfan penodol yma yn £5, neu mae modd prynu tocyn penwythnos ar gyfer yr ŵyl am £20

 

Gadael Ymateb