Bydd sioe Nadolig flynyddol Al Lewis yng Nghaerdydd yn ehangu gorwelion eleni wrth i’r cerddor poblogaidd gyhoeddi dau leoliad newydd fis Rhagfyr.
Cynhelir ei sioe Nadolig boblogaidd yn Eglwys St Ioan yn Nhreganna ers nifer o flynyddoedd bellach, ac mae eisoes wedi ymestyn y digwyddiad dros ddwy noson. Mae’r sioe fel arfer yn gwerthu allan yn llwyr.
Eleni, bydd Al yn ehangu’r sioe ymhellach wrth gynnal nosweithiau yng Nghaernarfon ac Aberystwyth hefyd.
Amgueddfa Ceredigion fydd lleoliad y sioe yn Aberystwyth ar nos Wener 20 Rhagfyr, gyda’r daith yn symud ymlaen i’r Galeri yng Nghaernarfon y noson ganlynol, 21 Rhagfyr.
Mae’r cyfle cyntaf i brynu tocynnau i’r sioeau hyn wedi eu cynnig i’r rhai hynny sy’n tanysgrifio i gylchlythyr Al Lewis – mae modd gwneud hynny nawr ar ei wefan. Mae hyn yn gyson gyda’r hyn a wnaed gyda thocynnau ei sioeau yng Nghaerdydd, ond mae’r rhai sy’n weddill bellach ar werth i’r cyhoedd i gyd.
Bob blwyddyn bydd Al yn gwahodd gwesteion arbennig i berfformio fel rhan o’r nosweithiau, a dywed y bydd yn datgelu enwau gwesteion eleni yn fuan.