Mae’r tocynnau cyntaf ar gyfer sioe Nadolig flynyddol Al Lewis wedi mynd ar werth, gyda chyfle cyntaf i brynu i’r rhai sydd wedi tanysgrifio ar gyfer e-gylchlythyr y canwr-gyfansoddwr poblogaidd.
Dros y blynyddoedd mae Sioe Nadolig Al Lewis, a gynhelir yn Eglwys St Ioan yn Nhreganna, wedi dod yn un o uchafbwyntiau cyfnod y Nadolig yn y Brifddinas.
Mae wedi ehangu i ddwy noson dros y blynyddoedd diwethaf, ac eleni bydd y cyngherddau’n cael eu cynnal ar nos Wener 13 Rhagfyr a nos Sadwrn 14 Rhagfyr.
Dim ond y sawl sy’n tanysgrifio i gylchlythyr ebost Al Lewis sydd wedi derbyn gwahoddiad i brynu’r tocynnau cynnar ar hyn o bryd, ond gyda’r sioe yn gwerthu allan yn flynyddol bydd galw mawr am docynnau unwaith eto eleni.
Mae modd tanysgrifio o’r newydd i’r cylchlythyr i unrhyw un sy’n awyddus i fachu tocyn, a hynny ar wefan Al Lewis.