Llyfr hanes cerddoriaeth Cymreig y 90au

Bydd cyfrol newydd sy’n trafod hanes cerddoriaeth o Gymru yn ystod y 1990au yn cael ei chyhoeddi ar ddiwedd mis Gorffennaf.

‘International Velvet: How Wales Conquered the 90s Chartsydy enw’r llyfr newydd gan Neil Collins a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 25 Gorffennaf trwy wasg Calon/Gwasg Prifysgol Cymru.

Mae’r gyfrol yn archwilio’r cyfnod a alwyd yn ‘Cool Cymru’ gan y cyfryngau ac a welodd Manics Street Preachers, Catatonia, Super Furry Animals, Stereophonics a nifer o grwpiau eraill o Gymru yn gwneud eu marc yn rhyngwladol.

Er mai’r 90au ydy canolbwynt y llyfr, mae’r gyfrol hefyd yn bwrw golwg nôl dros y 1960au i’r 80au fel cyflwyniad, gan hefyd edrych ar gerddoriaeth Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain er mwyn cynnig crynodeb llawn o hanes cerddoriaeth Cymreig.

Mae’r awdur, Neil Collins, yn byw yng Nghaerdydd ac yn cyd-gyflwyno podlediad cerddoriaeth ‘Welsh Music’. Ef oedd awdur y cyfrolau ‘Make Us Dream’ a ‘Red Mist’ sydd am Glwb pêl-droed Lerpwl.