Mae Euros Childs wedi cyhoeddi manylion taith hydref fydd yn ei weld yn perfformio cyfres o gigs ledled Cymru a Lloegr ym misoedd Hydref a Rhagfyr eleni.
Mae Euros yn un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol Cymru. Ar ôl dechrau ei yrfa cerddorol fel ffryntman y grwp arloesol Gorky’s Zygotic Mynci, mae Euros bellach wedi rhyddhau 19 o albyms unigol.
Mae’r daith yma’n gweld Euros yn dychwelyd i’r llwyfan byw gyda band am y tro cyntaf ers 7 blynedd yng nghwmni Stephen Black (Sweet Baboo) Stuart Kidd (Kidd, The Wellgreen) a Selma French (Morgonrode, Frøkedal).
Bydd y daith yn amserol hefyd gan fod disgwyl iddo ryddhau ei albwm diweddaraf, ‘Beehive Beach’, ym mis Hydref.
Mae 16 o leoliadau wedi eu cyhoeddi ar y daith i gyd gan gynnwys 4 yng Nghymru sef Le Pub yn Nghasnewydd ar 5 Hydref, Neuadd Bethel yng Ngwynedd ar 12 Hydref, Neuadd y Frenhines yn Arberth ar 12 Rhagfyr a Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ar 13 Rhagfyr.
Mae manylion llawn y daith, a dolenni ar gyfer archebu tocynnau, ar wefan Euros Childs.