Maddy Elliott yn rhyddhau cynnyrch cyntaf

Mae artist newydd, Maddy Elliott, wedi rhyddhau ei chynnyrch cyntaf ar label Recordiau Aran

‘Torra Fi’ ydy enw’r EP newydd, a’r caneuon cyntaf i ni eu gweld gan Maddy Elliott. 

Yn EP dwy gân, mae’r trac cyntaf, ‘Torri Fi’, wedi’i ei ddylanwadu arno gan gerddoriaeth pop yr 1980au gyda llinellau synth llachar a geiriau bachog. 

Mae’r ail drac, ‘Gwahanol’, yn dangos dylanwad jazz modern gyda llinell fas groovy a riffs sacsoffon.

Wedi’i lleoli yn Llanfair Talhaiarn ger Abergele, mae Maddy newydd gwblhau blwyddyn o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth fel rhan o’i gradd gerdd ym Mhrifysgol Efrog.

Bu’n gweithio yn Stiwdio Aran yn cefnogi artistiaid eraill fel Alis Glyn a hefyd yn gweithio gyda chriw Beacons Cymru. 

I gydfynd â rhyddhau’r trac, mae fideo wedi’i greu ar gyfer ‘Torri Fi’ wedi’i gyfarwyddo gan Meilyr Rhys a’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp a PYST. A newyddion gwych pellach i chi – bydd cyfle cyntaf i chi weld y fideo yma’n ecsgliwsif ar wefan Y Selar am hanner dydd, ddydd Gwener 30 Awst! 

Gadael Ymateb