Ddydd Iau, 8 Awst, cyflwynwyd Gwobrau’r Selar 2023 i’r enillwyr mewn sesiwn arbennig yng Nghaffi Maes B.
Cyhoeddwyd enillwyr y gwobrau yn y Gwanwyn mewn partneriaeth â Radio Cymru, a’r manylion yn llawn yn rhifyn Gwanwyn y cylchgrawn.
Cynhaliwyd sgwrs banel gyda Malan Fôn, enillydd Artist Unigol Gorau; Glyn Rhys James o’r band Mellt, enillwyr Record Hir Orau am ‘Dim Dwywaith’; a chriw Tin Sardines, enillwyr Seren y Sîn.
Gruffudd ab Owain, Dirprwy Olygydd Y Selar, oedd yn llywio’r sesiwn, a chafwyd trafodaeth am ystod eang o bynciau, gan gynnwys gwerth gwobrau, gwerth albwm yn 2024, cynrychiolaeth mewn digwyddiadau byw, a normalrwydd canu’n y Gymraeg.
Roedd cynrychiolaeth hefyd gan GWCCI, Pys Melyn, a Dadleoli wrth iddyn nhw dderbyn eu gwobrau yn ystod y sesiwn.
Derbyniodd yr holl enillwyr i gyd yn wobr wedi’i chreu gan yr artist ifanc Luke Cotter, sydd newydd orffen ei ail flwyddyn yng ngholeg Gelf Abertawe.
Mae gwaith celf Luke yn defnyddio deunyddiau wedi’u darganfod i greu cerfluniau sy’n debyg iawn i ddodrefn, neu gadeiriau yn arbennig…addas iawn ar gyfer y Steddfod!
Roedd cyfle i gyflwyno eu gwobrau hwythau i Fleur de Lys ac Y Cledrau yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Roedd y sesiwn hefyd yn cynnig cyfle i sôn am rifyn diweddaraf cylchgrawn print Y Selar, laniodd ddydd Llun yr Eisteddfod.
Yn y rhifyn, mae cyfweliadau gyda Melda Lois, Taran, Ynys, Dadleoli, y ffotograffydd Ceirios; sylw i artistiaid Brwydr y Bandiau a Brwydr y Bandiau Gwerin; sylw i gyfrolau newydd Huw Stephens a Neil Collins, yn ogystal â’r holl eitemau arferol.
Mae’r rhifyn print ar gael yn rhad ac am ddim o’r mannau arferol sy’n cynnwys ysgolion, colegau, siopau llyfrau Cymraeg a lleoliadau amrywiol eraill. Mae’r cylchgrawn hefyd yn cael ei ddosbarthu’n lleol gan y mentrau iaith amrywiol, ac yn cael ei bostio’n uniongyrchol i aelodau Clwb Selar.