Seindorf yn ôl gyda ‘Golau Dydd’

‘Golau Dydd’ ydy enw’r seng newydd sydd wedi glanio gan Seindorf, ac mae wedi cydweithio gydag artist cyfarwydd arall ar y trac. 

Seindorf yw prosiect cerddorol Owain Gruffudd Roberts, cerddor llawrydd sy’n wreiddiol o Fangor ac sydd bellach yn byw ym Manceinion. 

Yn adnabyddus fel arweinydd Band Pres Llareggub, mae Owain hefyd yn drefnydd ac yn arweinydd  cerddorfaol sy’n gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa’r Welsh Pops.

Mae ‘Golau Dydd’ yn gweld Owain yn cyd-weithio gyda’r gantores dalentog Thallo, sef Elin Edwards. Bu i’r ddau  gwrdd trwy ddamwain yn siop recordiau Erased Tapes yn Victoria Park yn Llundain, a phenderfynu cyd-weithio ar ôl hyn. 

 Gwelwyd Seindorf yn gyntaf mewn fideo Lŵp a oedd yn gomisiwn gan Ganolfan Pontio, Bangor mewn cywaith gyda Casi Wyn – Curiad Rhywbeth Arall (2021). Mae’r prif brosiectau wedi deillio o gomisiynau gan Pontio (Curiad Rhywbeth Arall, 2021), Eisteddfod Genedlaethol (cyngerdd Tŷ Gwerin Casi Wyn a Seindorf yn 2022) a Pharc Cenedlaethol Eryri (Adleisio, 2021). 

Yn 2020, bu i Owain ennill grant Eos tuag at sesiwn recordio. O ganlyniad i’r amgylchiadau ar y pryd, gohiriwyd y sesiwn cyn ail-drefnu ym mis Mai 2021 yn Stiwdio Sain yn Llandwrog gydag Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn peiriannu. 

Ag yntau’n gobeithio rhyddhau mwy o senglau cyn diwedd y flwyddyn, yn ogystal â gweithio ar albwm o weithiau piano unawdol i’w rhyddhau yn gynnar flwyddyn nesaf, gallwn ddisgwyl mwy yn fuan gan Seindorf ac  Owain. 

Dyma fideo ar gyfer y trac sydd wedi’i gyfarwyddo gan Osian Howells:

Gadael Ymateb