Magi yn cyhoeddi ‘Anghori’

Mae Magi wedi rhyddhau ei sengl newydd , ‘Angori’, ers dydd Gwener 2 Awst. 

Yn dilyn rhyddhau’r trac ‘Cerrynt’ rai misoedd yn ôl, ‘Angori’ ydy’r ail sengl i lanio gan Magi eleni, ac mae allan yn annibynnol ganddi. 

“Recordiwyd ‘Angori’ yn fyw yn stiwdio Sain yn gynharach eleni, ar yr un diwrnod a recordiwyd ‘Cerrynt’” eglura Magi.  

“Ar ôl cael seibiant o gyfansoddi a recordio rhwng 2021 a 2024, mae fy awch am greu cerddoriaeth wedi dychwelyd a dwi’n ffodus iawn o gael cyd-weithio efo aelodau’r band sef Elis Derby (gitâr), Malan Fon (allweddellau), Aled Emyr (gitâr fâs) a Siôn Land (drymiau).”

Yn y gorffennol mae Magi wedi defnyddio profiadau personol wrth gyfansoddi ei chaneuon , ac mae hynny’n wir eto gydag ‘Angori’. 

“Sonia’r gân am y person sydd yn fy nghadw i’n gall ac sy’n f’atgoffa o bwy ydw i drwy’r amseroedd caled” meddai’r cerddor. 

“Mae’r thema môr yn gyson drwy’r trac am sawl rheswm – gall y môr fod yn wyllt ac anrhagweladwy, ond gall hefyd fod yn llonydd a’n heddychlon. Felly, mae’r person sydd yn fy ‘Angori’ yn fy nghadw yn saff pan fydd storm neu dywydd gwallgo.”

Mae ‘Angori’ ar gael yn y mannau digidol arferol nawr.