Mali Hâf yn westai ar sengl CF24 

Mae’r prosiect cerddorol CF24 wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar label electronig HOSC.

‘Tylwyth Teg’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener 2 Awst. 

Mae llais cyfarwydd yn serennu ar y trac sef yr hudol Mali Hâf. ‘Tylwyth Teg’ yw trac Cymraeg cyntaf y criw ac mae’n addo i fod yn drac sain ar gyfer yr haf. 

Triawd o gynhyrchwyr electroneg o Gaerdydd yw CF24, sy’n cynnwys neb llai nag Elliott Pughsley, Donald Phythian a Lloyd Lewis. 

Ers ffurfio yn 2023, wedi iddynt ddilyn sawl prosiect personol gwahanol, maent wedi perfformio i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad, gan gefnogi DJ’s fel Riordan, Sidney Charles a Franky Rizzardo.

“‘Da ni wedi bod eisiau neud trac Cymraeg ers i ni ffurfio, ac yn ystod Eisteddfod 2023, gwnaethom ddechrau gweithio ar drac efo vocals gwnaeth Mali ddanfon ni” eglura Elliott. 

“Rydym i gyd yn ffans massive o Mal, felly roedden ni gyd eisiau neud trac efo hi ac er mae ’di cymryd blwyddyn i ni orffen hi, ’da ni’n hapus efo’r trac a’n teimlo bod ni di neud justice i beth oedden yn ceisio’i gyflawni.”