Mari Mathias yn cyd-weithio gyda Cynefin ar sengl ddiweddaraf

Mae’r artist gwerin o Geredigion, Mari Mathias, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, a cyn cyd-weithio gyda cherddor arall o’r sir. 

‘Aur y Cynhaeaf’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi, a dyma’r drydedd sengl iddi ollwng o’r EP ‘Awen’. 

Mae’r sengl ddiweddaraf yn adlewyrchu ar yr hydref ac ar gyfnod y cynhaeaf. 

Mae’r trac yn arwyddocaol hefyd gan ei fod yn gweld Mari’n cyd-weithio gyda’r cerddor arall o Geredigion, Cynefin (Owen Shears), ynghyd â Patrick Rimes. 

Y newyddion pellach ydy y bydd pedwaredd sengl o’r EP yn cael ei rhyddhau ar 26 Rhagfyr, Gŵyl San Steffan. Mae’r sengl honno’n ddathliad o Heuldro’n Gaeaf, ac hefyd o chwedl enwog ‘Culwch ac Olwen’. 

“Ni allaf aros i rannu’r ddwy sengl nesaf hyn a’r siwrnai barhaus o gydweithio ag eraill wrth symud ymlaen fel artist” meddai Mari Mathias am y traciau diweddaraf.  

“Roeddwn i wrth fy modd yn creu gyda’r cerddorion anhygoel yma ac mae pob cân yn cynrychioli rhywbeth hudolus mae’r tymhorau’n dod â nhw… ynom ni’n hunain a’r sibrwd trwy gwreiddiau y coeden Derwen ac wrth gwrs, yr Awen…”

Mae’r senglau newydd, ynghyd â’r EP, yn cael eu rhyddhau ar label annibynnol Mari, Tarian. 

Gadael Ymateb