Fideo Ynys ar gyfer ‘Dosbarth Nos’

Mae’r band o Aberystwyth, Ynys, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘Hi Sy’n Canu’. 

Mae’r trac yn ymddangos ar albwm diweddaraf Ynys, ‘Dosbarth Nos’, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf eleni. 

Cyfarwyddwr y fideo newydd ydy Aled Victor ac mae’r gwaith camera wedi’i wneud ganddo hefyd, ynghyd â Sam Stevens. 

Ffilmiwyd cynnwys y fideo yn ystod taith hydref ddiweddar y band i hyrwyddo’r albwm ‘Dosbarth Nos’ 

Gellir gwylio’r fideo nawr ar sianel YouTube label Recordiau Libertino, neu isod. 

Gadael Ymateb